Am - About
Sefydliad di-elw
Prosiect ymgysylltiol fydd yn dychmygu o’r newydd sut i feithrin talent greadigol ym maes dawnsio traddodiadol Cymreig; datblygu rhwydwaith o hyfforddwyr i gryfhau’r sector gymunedol, creu llwybr creadigol i ddawnswyr, creu seilwaith cadarn ar gyfer datblygu, hyrwyddo a diogelu traddodiad i’r dyfodol a chynnig cyfleoedd uchelgeisiol proffesiynol.
Non- Profit Organisation

Ein Bwriad // Our Intent
Hyrwyddo celfyddydau gwerin Cymru
Creu rhaglenni dysgu, cyfranogi a datblygu artistiaid–creu llwybr creadigol
Creu cyfleoedd newydd i ddawnsio cymunedol a’i wneud yn gyfrwng perthnasol i bawb
Adeiladu perthynas newydd, hirdymor rhwng sefydliadau & gweithwyr llawrydd Cefnogi artistiaid dawns, athrawon a sefydliadau i wneud manteision iechyd, cymdeithasol a creadigol dawns yn fwy hygyrch a chynhwysol
Profiad partneriaid o weithio ar ddigwyddiadau proffil uchel o ansawdd ar draws genres
Profiad partneriaid llawrydd ym maes dawns fel perfformwyr, arweinwyr gweithdai a hyrwyddwyr llwyddiannus
Datblygu cymunedol arloesol yn ymwneud â'r Gymraeg a diwylliant+rhwydweithiau llawr gwlad
Codi gwelededd dawnsio traddodiadol ymysg cynulleidfaoedd a’r gymuned dawns gyfoes yng Nghymru
Cynnig cyfleoedd uchelgeisiol i ddawnswyr traddodiadol i greu gwaith newydd fydd ar gael i deithio Cymru a thu hwnt Creu rhwydwaith o ddawnswyr proffesiynol ym maes dawns traddodiadol.