Sblash!

Roedd perfformiadau’r bartneriaeth gyda WYTH yn uchafbwyntiau ein taith yr haf hwn a gwnaethom gysylltiadau rhwydweithio gwerthfawr gyda chynhyrchwyr ac artistiaid eraill.
— Angharad Harrop - Perfformwr

What is Sblash! ?

Roeddem yn ymwybodol fel cydweithfa bod cyfleoedd i ddatblygu perfformiadau a sioeau safon uwch yn brin iawn ar gyfer dawnswyr traddodiadol Cymreig. Ar ôl ennill yn yr Eisteddfod – doedd unman arall i fynd tu hwnt i hynny a doedd dim llwybr gyrfa amlwg i’r maes. Datblygwyd y syniad o gynnig comisiynau i weld perfformiadau awyr agored cyffrous a fyddai’n cyfuno elfen o ddawnsio gwerin neu glocsio gyda unrhyw genre arall.
Dim ond tair cais a dderbyniwyd eleni, oedd braidd yn siomedig, ond roeddem yn falch iawn i allu cynnig y comisiwn i un cais yn benodol. Cais oedd yn rhoi cyfle i ddawnsiwr ‘down syndrome’ gael un o’r prif rolau yn y perfformiad. Yn ogystal â pherfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau (yn hytrach na Cwlwm Celtaidd fel oedd y bwriad gwreiddiol), mae’r sioe wedi cael ei pherfformio mewn sawl lleoliad arall, gan gynnwys gyda 12 o blant â chyflyrau “life-limiting” yn NhŷGobaith.

Beth yw Sblash! ?

“Da ni’n dueddol o feddwl am clocsio fel rhywbeth “eisteddfodol” ond ma’ gymaint o le a sgôp yn y
byd perfformio i blethu clocsio mewn i berfformiadau heb iddo fo ddod drosodd fel y “clocsio traddodiadol” da ni wedi arfer gweld. .”

— Siwan Llynor

ADBORTH- FEEDBACK

Partner – Angharad Harrop

“Mae creu Sblash wedi bod yn bleser llwyr. Fe wnaeth yr arian a dderbyniwyd gan Wyth ein galluogi i uwchraddio'r uchelgeisiau oedd gennym ar gyfer sblash gyda'n cyllid cychwynnol. Llwyddwyd i gynyddu’r cyfnod ymarfer a theithio’r gwaith i’r Sesiwn Fawr a’r Eisteddfod. Roedd dod â Siwan a Meinir yn rhan o’r ymarferion yn golygu ein bod yn gallu ymchwilio’n ddwfn i’r ffordd y daethom â theatr stryd, dawns a dawnsio gwerin at ei gilydd.

Roedd perfformiadau’r bartneriaeth gyda WYTH yn uchafbwyntiau ein taith yr haf hwn a gwnaethom gysylltiadau rhwydweithio gwerthfawr gyda chynhyrchwyr ac artistiaid eraill.”

Partner – Siwan Llynor

“Mae rhythm a drymiau yn gweithio’n rili da mewn perfformiadau cynhwysol gyda cynulleidfa o bob oed. Wrth wylio clocsio yn ystod cynhyrchiad Sblash, daeth yr ysbrydoliaeth i mi a dechreuodd y meddwl greu syniadau. Gweld bod lle, yn enwedig mewn caneuon i blant, i ddod a chlocsio mewn i berfformiadau yn lle neu gyda drwm. Felly dwi ‘di dechre edrych ar gynhyrchiad theatrig yn wahanol rwan. A doedd hynny heb groesi’n meddwl cyn y cynhyrchiad yma.

Gyda Sblash roedd y cymeriadau “broga” yna fel cymeriadau. Doedd o ddim yn rhywbeth “merched neu bechgyn” nag mewn ffordd hen h.y. “gwisg traddodiadol”. Roedden nhw’n gymeriadau oedd yn ‘dri broga’. A brogaod yn dawnsio a symud ac actio; bod yn froga.
‘Da ni’n dueddol o feddwl am clocsio fel rhywbeth “eisteddfodol” ond ma’ gymaint o le a sgôp yn y
byd perfformio i blethu clocsio mewn i berfformiadau heb iddo fo ddod drosodd fel y “clocsio traddodiadol” da ni wedi arfer gweld.”

Partner /Mentor - Meinir Siencyn

“Mi roedd gweithio gyda dawnswyr proffesiynol mewn ffordd theatrig yn gymaint o wefr. Roedd gallu dysgu stepiau clocsio Cymreig a’i rhoi mewn i berfformiad oedd yn cael ei arddangos mewn ‘wellingtons’ a nid chlocsiau, yn pwsio ffiniau’r gamp. Mi roedd yn wych gweld a dysgu camau, gan addasu rhei ar gyfer y perfformiad yma yn ffordd gwbl gwahanol a newydd i’r arfer.

Mi roedd yn gymaint o awyr iach cael dod a chlocsio neu gamau Cymreig o flaen cynulleidfa a chymuned sydd heb weld stepio Cymreig o’r blaen.
Oes, ma na le i arddangos clocsio Cymreig yn ei ffurf draddodiadol, ond mae hefyd yr un mor bwysig ehangu’r ffiniau a’n gorwelion a dod a chlocsio mewn i berfformiad theatrig neu unrhyw berfformiad cyfoes. Er mwyn galluogi’r traddodiad i barhau. Ac wrth gwrs; i gael hwyl gyda rhythmau a symud y corff.”

Previous
Previous

Cadi Ha

Next
Next

Gweithdai -Workshops