
Prosiect
Maldwyn
“Gan fod yr Eisteddfod Yr Urdd yn cael ei chynnal yn Maldwyn ym mis Mai 2024 – dewiswyd yr ardal fel ardal darged i wneud gwaith cymunedol dwys i sefydlu grwpiau dawnsio gwerin a clocsio newydd”
Gan fod yr Eisteddfod Yr Urdd yn cael ei chynnal yn Maldwyn ym mis Mai 2024 – dewiswyd yr ardal fel ardal darged i wneud gwaith cymunedol dwys i sefydlu grwpiau dawnsio gwerin a clocsio newydd. Mae rhywfaint o draddodiad dawnsio wedi bod yn yr ardal ers talwm, ond dim llawer o gyfleoedd yn cael eu cynnig ar gyfer bobl ifanc.
Cynhaliodd Tudur weithdai blasu mewn pedair ysgol ym Maldwyn, Ysgol Pennant, Penybontfawr, Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Ysgol Llanfyllin (Cynradd) ac Ysgol Llanfyllin (Uwchradd). Y nod oedd codi awydd i sefydlu grŵp dawnsio newydd dan hyfforddiant clocswraig a dawnswraig ifanc Cadi Glwys Davies. Doedd gan Cadi ddim profiad hyfforddi cyn hyn, ac felly cafwyd sesiynau mentora a rhannu cyngor gyda Tudur Phillips a Meinir Siencyn i’w rhoi ar ben ffordd.
Daeth 12 o blant a phobl ifanc i glwb clocsio Aelwyd Sycharth dros tymor y Gaeaf i ddysgu camau syml, a penderfynodd 9 o rheiny gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Roedd nifer o’r bobl ifanc yn awyddus i greu tîm dawnsio gwerin hefyd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, felly aeth Cadi ati gyda chefnogaeth Meinir i sefydlu tîm i gystadlu yn y Grŵp Dawnsio Gwerin dan 19 oed oedd yn cynnwys 8 o bobl ifanc yn dawnsio a dau yn y band. Cafodd Cadi hefyd wahoddiad gan Ysgol Gynradd Llanfyllin i hyfforddi criw o blant blwyddyn 5-6 i gystadlu yn yr Eisteddfod.
Gwych oedd gallu cynnig sesiynau mentora i hyfforddwr ifanc newydd. Trefnwyd hefyd dosbarth meistr clocsio i’r criw iau gyda’r clocswraig Bethan Rhiannon. Dyma Clocswyr Aelwyd Sycharth a Dawnswyr Aelwyd Sycharth.
Prosiect Maldwyn
ADBORTH - FEEDBACK
Partner – Tudur Phillips
“er mwyn creu tîm clocsio newydd yn yr ardal, lle fydd Cadi yn cario ‘mlaen. Pwysleisies y pwysigrwydd i Cadi i wneud amrywiaeth o stepiau sydd yn gallu herio y rhai hynaf a cadw y lleiaf a diddordeb.
Tudur Philips
“Fues i mewn 3 ysgol, Llanfyllin, Llanrhaeadr-ym-mochnant a Pennant yn gwneud gweithdai clocsio, gyda Cadi er mwyn iddi weld pa syniadau rwy’n defnyddio i gadw’r sesiynau yn hwylus, gemau/heriau amrywiol ac i gadw rheolaeth. Roedd hyn er mwyn creu tîm clocsio newydd yn yr ardal, lle fydd Cadi yn cario ‘mlaen. Pwysleisies y pwysigrwydd i Cadi i wneud amrywiaeth o stepiau sydd yn gallu herio y rhai hynaf a cadw y lleiaf a diddordeb. Gobeithio bod hyn wedi bod o help a fwy o hyder i Cadi ddod yn hyfforddwr gwych.”
Uwchsgilio -Cadi Glwys
“oedd gallu cael yr ysgogiad a’r hwb i ddechrau pasio’r dawnsfeydd dwi wedi fy magu efo i’r genhedlaeth nesaf yn hwb rhyfeddol.”
Cadi Glwys
“Fel person ifanc sydd wedi dawnsio gwerin a chlocsio ar hyd fy oes, roedd gallu cael yr ysgogiad a’r hwb i ddechrau pasio’r dawnsfeydd dwi wedi fy magu efo i’r genhedlaeth nesaf yn hwb rhyfeddol. Faswn i ddim wedi cael digon o hyder i wneud hynny heb gefnogaeth Prosiect WYTH dwi ddim yn meddwl. Nes i neud cysylltiadau mor wych efo’r plant i gyd a dwi wir yn gobeithio bod fi wedi ysbrydoli nhw i gario mlaen i ddawnsio gwerin a chlocsio. Roedd o’n rhyfeddol gweld faint oedden nhw wedi gwella dros y pitw naw mis oeddwn i’n hyfforddi nhw. Mae o wedi agor gymaint o ddrysau i fi ac wedi neud i fi ystyried a bod awydd bod yn hyfforddwr dawnsio gwerin a chlocsio fel gyrfa rhywbryd. Dwi eisiau parhau i wneud hynny yn sicr yn y dyfodol. Roedd o’n gyfle mor wych cael mentoriaid fel Meinir Siencyn a Tudur Phillips, achos nhw oedd y rhai nath ddysgu fi pan oeddwn i’n blentyn, felly roedd o’n rhyfeddol gallu gweithio efo nhw. Dwi mor ddiolchgar iddyn nhw am ddangos yr holl tips ar sut i gysylltu efo plant a sut i gael y gorau allan ohonyn nhw. Roedd o’n wych hefyd gallu gweithio efo cyfeilyddion oedd wedi arfer cyfeilio i ddawnsio gwerin Cymraeg. Roedd o’n bartneriaeth ddaru weithio’n wych. Roedd o’n rhoi hyder i fi wybod fod na berson profiadol yno i fy nghefnogi. Fel person ifanc yn enwedig, mae’r cyfle yma gyda Prosiect WYTH wir wedi helpu fy hyder a nes i fwynhau’r profiad yn fawr iawn.”