Dawns Aml-Gyfrwng

Multi Media Dance

i gynhyrchu perfformiad dawns yn plethu dawns cyfoes a gwerin i’w berfformio ar lwyfan y pafiliwn ar nos Iau yr Eisteddfod.

Dyma yr video oedd yn y cefndir yn ystod y ddawns ar lwyfan yr Eisteddfod.

Sioe Ddawns Aml-Gyfrwng

Comisiynodd Prosiect Wyth Bethan Williams-Jones i gynhyrchu perfformiad dawns yn plethu dawns cyfoes a gwerin i’w berfformio ar lwyfan y pafiliwn ar nos Iau yr Eisteddfod. Gweithiodd Bethan gyda 4 o ddawnswyr gan cynnwys 2 dawnswyr gwerin sydd wedi ennill cystadlaethau yn yr Eisteddfod gan rhoi cyfle proffesiynol iddynt yn y byd dawns. Yn ogystal rhoddwyd y cyfle i un ohonynt Ioan Williams i weithio fel choreograffydd gan eto rhoi cyfle proffesiynol cynnar iddo yn y maes mae o’n gobeithio gweithio ynddo. Roedd hyn yn gweithio o fewn strategaeth datblygu artistiaid ifanc yr Eisteddfod.

 Llwyddodd Bethan a’r tîm i greu perfformiad dyfeisgar o safon gan gwneud y mwyaf o’r adnoddau yn y pafiliwn gan gydweithio yn arbennig gyda’r cynllunydd goleuo Russ Grubiak. Cafwyd adborth gwych gan y gynulleidfa a braf iawn oedd gweld gwaith oedd yn plethu y traddodiadol a cyfoes gan taw prin iawn yw y cyfle fel arfer. 

Partner – Bethan Rhiannon

“Creais y delweddau a’r gerddoriaeth ar gyfer ein sioe ddawns i hyrwyddo heddwch yn yr hinsawdd fyd-eang bresennol, gan dynnu ysbrydoliaeth o ddigwyddiadau arwyddocaol yn hanes Cymru, pan unodd y bobl am newid”

Bethan Rhiannon

“Creais y delweddau a’r gerddoriaeth ar gyfer ein sioe ddawns i hyrwyddo heddwch yn yr hinsawdd fyd-eang bresennol, gan dynnu ysbrydoliaeth o ddigwyddiadau arwyddocaol yn hanes Cymru, pan unodd y bobl am newid. Roedd y sioe yn cynnwys cyfeiriadau at streic y glowyr yn 1984, streiciau chwarel Penrhyn, a'r ymgyrch barhaus i atal tai haf rhag cael eu prynu yng Nghymru. Defnyddiais ymadroddion Cymraeg cyfarwydd, megis "A oes heddwch?" o seremoni cadeirio'r Eisteddfod. Penderfynais gyfuno alawon traddodiadol Cymreig fel "Ymadawiad y Brenin" (a glywyd hefyd yn yr Eisteddfod yn ystod y seremonïau hyn) gyda cherddoriaeth ‘drum & bass’, tra bod y coreograffi yn cyfuno arddulliau dawnsio traddodiadol a chyfoes. Roedd y dull hwn yn arddangos cefndiroedd amrywiol y Cymry ac yn pwysleisio undod wrth sefyll dros gyfiawnder. Oherwydd bod yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Mhontypridd eleni, ysgrifennais geiriau i gyd-fynd a’r cerddoriaeth a ysbrydolwyd gan yr anthem genedlaethol. Ysgrifennwyd yr anthem gan y bardd lleol Evan James, ac roedd hwn hefyd wedi helpu atgyfnerthu neges graidd y sioe. Cafodd caneuon traddodiadol fel "Ym Mhontypridd" eu cynnwys hefyd i glymu'r holl elfennau at ei gilydd ymhellach.”

Previous
Previous

Prosiect Maldwyn