TwmpDaith

“Rhoi cyfle i bobl o bob man ddod yn gyfarwydd a thraddodiadau ein gwlad.
— Aleod Twmpdaith 2024

Yn dilyn llwyddiant ysgubol prosiect TwmpDaith y llynedd, aethpwyd ati i ail hysbysebu ar gyfer TwmpDaith 2024. Dewiswyd 9 o ddawnswyr a cherddorion ifanc (dau o griw 2023 yn dychwelyd a 7 newydd). Eto ein nod oedd uwch-sgilio bobl ifanc er mwyn rhoi hyder iddynt ystyried datblygu gyrfa yn y maes traddodiadol Cymreig.
Cynhaliwyd wythnos o hyfforddiant dwys yng Nghanolfan Nant Hirwen yn y canolbarth gyda thiwtoriaid ysbrydoledig gan gynnwys: Hyfforddiant Clocsio a Dawnsio Gwerin gyda Meinir Siencyn, Defnyddio System Sain, Galw Twmpath gyda Bryn Davies, Trefniant cerddorol a chwarae fel band gyda Gwilym Bowen Rhys, Addasu dawnsfeydd i fod yn hygyrch i bobl gydag anableddau a galw rhywedd-niwtral gyda Angharad Harrop, a Threfnu digwyddiadau a siarad gyda’r wasg gyda Rhian Davies.
Talodd y prosiect trwy’r cynllun “Ewch i Weld” – i’r criw i fynd i weld Lord of the Dance yn Lerpwl fel rhan o’u hyfforddiant er mwyn dangos beth sy’n bosib ei wneud gyda dawnsio traddodiadol proffesiynol. Roedd un o aelodau TwmpDaith wedi adnabod un o’r dawnswyr Gwyddelig gan ei fod wedi cystadlu yn ei erbyn y llynedd mewn cystadleuaeth unigol. Roedd hyn yn brofiad difyr er mwyn gallu profi i’r bobl ifanc bod safon ein dawnsio traddodiadol yma yng Nghymru cystal â’r Gwyddelod, ond fod angen i ni fod a mwy o uchelgais a ysbrydoliaeth i freuddwydio yn fwy.
Yn dilyn yr hyfforddiant trefnwyd taith o amgylch Cymru ar fws mini yn cynnal twmpathau, gweithdai a sesiynau amrywiol. Fel llynedd, anogwyd y bobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb dros bob elfen o’r nosweithiau – o osod y system sain i gytuno a’r “set list” i gyflwyno a rheoli’r noson yn llwyr. Roedd amrywiaeth eang o gigiau wedi trefnu, o dwmpathau mewn neuaddau pentref, i berfformiadau mewn gwyliau cenedlaethol, i weithdai gyda unigolion oedd yn byw gyda’r cyflwr Parkinsons. Y nod oedd rhoi cymaint o brofiadau gwahanol i’r bobl ifanc â phosib, a’u gweld yn hyfforddi ac yn trosglwyddo sgiliau i bob mathau o grwpiau cymunedol.
Uchafbwynt y daith eleni oedd cael mynd i Ŵyl Rhyng-geltaidd Lorient wrth i’r Urdd ymuno â’r prosiect fel partner. Diolch i gyllid Taith Llywodraeth Cymru bu’r daith yn bosib.
Llwyddiant ysgubol arall gyda TwmpDaith eleni oedd gadael i’r bobl ifanc wneud “take-over” o gyfryngau cymdeithasol WYTH. Aethant ati i greu cynnwys oedd yn apelio at y to iau, oedd yn Gymreig ac yn gyfoes ond yn bloeddio balchder yn ein traddodiadau gwerin. Cafwyd dros 205,000 yn gwylio eu fideos ar TikTok (ar TikToc, Instagram a Facebook), gyda’r fideos clocsio yn hynod boblogaidd. Gwelwyd argraff uniongyrchol y poblogrwydd yma yn Twmpath Tŷ Gwerin Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd. Roedd y lle yn llawn o bobl ifanc. Roedden ni’n meddwl mai ffrindiau aelodau’r band oedden nhw – ond na, wedi gweld TwmpDaith ar TikTok a dyna pam fod nhw wedi dod i’r digwyddiad! Nododd sawl aelod o TwmpDaith fod bobl wedi dod atyn nhw ar faes yr Eisteddfod gan eu bod wedi eu hadnabod o’r fideos ar y cyfryngau cymdeithasol.

Beth yw TwmpDaith?

2024

2023

Sylwadau gan aelodau TwmpDaith 2024:
Beth wyt ti’n teimlo bydd gwaddol y prosiect i ti fel unigolyn?

Yn dy farn di, pam fod yn bwysig fod y prosiect hwn yn digwydd ar draws Cymru?

Yn ôl dy brofiad di, pa effaith y cafodd y prosiect hwn ar yr iaith Gymraeg a phaham?

Yr oedd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y prosiect yn llawer gwell na'r hyn yr oeddwn i wedi ei ddisgwyl! Nes i ddim dychmygu y byddwn i wedi setlo mor sydyn yn Nant Hirwen a chael cymaint o hwyl efo'r criw! Fe wnes i rili mwynhau y profiad bythgofiadwy yma a dwi mor ddiolchgar am y cyfle. Cefais fy herio i wneud pethau nad oeddwn i erioed wedi ei wneud o'r blaen ee galw twmpath , chwarae'n ddi-gopi a chynnig diolchiadau ar ddiwedd noson. Dyma brofiad y byddaf yn sicr yn ei drysori.

AELOD TWMPDAITH 2024

Next
Next

Cadi Ha